Croeso
Dyma Gyngor Ysgol Ysgol Morfa Nefyn. Cliciwch yma i ddysgu mwy am eu cyfrifoldebau a'u gwaith.
Gweledigaeth Ysgol Morfa
Ysgol ar gyfer plant hyd at Flwyddyn 3 yw Ysgol Morfa (plant 3-8 oed). Gobeithiwn y bydd y plant yn treulio blynyddoedd cyntaf eu haddysg mewn awyrgylch diogel, hapus a chartrefol gan ddatblygu’n addysgol a chymdeithasol. Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer ein dysgwyr - Dringa i fyny, Dringa i'r sêr! Cliciwch ar y ddolen hon i wylio fidio o'r plant yn canu cân y maent wedi ei chyfansoddi gyda Welsh Whisperer am ein gweledigaeth. Mae geiriau'r gân yn egluro sut yr ydym yn defnyddio Meddylfryd o Dwf i ddysgu bob dydd er mwyn Dringo i fyny, Dringo i'r sêr.
Rhieni
Diolch i chi am gymryd yr amser i ddarganfod a dysgu am ein hysgol. Gobeithiwn y bydd y wefan hwn yn eich cynorthwyo i roi blas i chi o‘r Ysgol a’r cyfleoedd yr ydym yn eu darparu ar gyfer eich plentyn.
Linciau i Rieni
Dyma ddolen i dudalen Magu Plant, rhowch amser iddo gan Lywodraeth Cymru ble gellir dod o hyd i llawer o 'dips' ymarferol a chyngor arbenigol, am ddim, ar gyfer eich holl heriau magu plant.
Dylunio'r Cwricwlwm
Cliciwch yma i ddarllen ein dogfen 'Dylunio'r cwricwlwm
Cwricwlwm i Gymru
Cliciwch ar y ddolen isod i ddatblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth am y cwricwlwm Newydd.Mae addysg yn newid: gwybodaeth i rhieni, gofalwyr a phobl ifanc
Asesiadau personol rhifedd a darllen
Mae’r asesiadau personol yn statudol ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion yng Nghymru. Cliciwch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth.
Asesiadau personol: gwybodaeth i rieni a gofalwyr
Mynediad ysgolion / Symud ysgol
Ydy eich plentyn chi yn dair oed cyn mis Medi? Cliciwch ar y ddolen hon i gofrestru eich plentyn ym mlwyddyn meithrin ysgol Morfa Nefyn.
Cinio am ddim
Mae cinio am ddim ar gael i blant ysgolion cynradd ac uwchradd os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn un o’r budd-daliadau hyn: Cinio am ddim
Newyddion
Mae newyddion yr ysgol yn cael ei rannu yn rheolaidd drwy dudalen gweplyfr yr ysgol. Gweler y newyddion diweddar isod: |
Criw Cymraeg
-

Mae Ysgol Morfa Nefyn yn gweithredu egwyddorion Siarter Iaith Gwynedd sydd yn hybu’r defnydd naturiol o Gymraeg yn holl fywyd a gwaith yr ysgol. Gellir cael mwy o wybodaeth a chael golwg ar y Strategaeth yma Siarter - (hwb.gov.wales) Dyma’r Criw Cymraeg. Eu rôl yw hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol. Mae’r Criw Cymraeg yn arwain a gyrru’r Siarter Iaith yn Ysgol Morfa.
Presenoldeb
- Mae presenoldeb da a chyson yn bwysig er mwyn sicrhau fod bob plentyn yn derbyn cyfleoedd i wneud cynnydd yn yr ysgol a llwyddo yn y dyfodol. Ein targed presenoldeb yw 96%. Byddwn yn gwobrwyo presenoldeb da ar ddiwedd bob tymor drwy rannu tystysgrifau.
Siarter Iaith
Mae Ysgol Morfa yn cefnogi Siarter iaith Gwynedd. Cliciwch yma i weld y gweithgareddau.
Mentergarwch
Mae gan dosbarth blwyddyn 2 a 3 gwmni busnes o’r enw MENTER MORFA i ddatblygu eu sgiliau mentergarwch. Cliciwch yma i weld y gweithgareddau.
Hysbysfwrdd
Adroddiad Estyn
Rydym yn hynod o falch o’n hadroddiad Estyn diweddar yn dilyn arolwg ym mis Tachwedd 2023.
Adroddiad arolygiad Ysgol Morfa Nefyn 2023 (llyw.cymru)
Côd QR
Mae'r ysgol yn defnyddio côd QR i rannu fidios o weithgareddau llafaredd ac ymarferol y dosbarthiadau yn llyfrau gwaith y plant ac ar y waliau arddangos. Cofiwch lwytho 'app' QR code reader ar eich ffôn symudol er mwyn gallu gwylio y fidios yn ystod ymweliadau.
Mae’r ysgol yn falch o ddilyn cynllun eco-sgolion. Mae’r cynllun wedi ei ddylunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach. Cliciwch yma i weld mwy ac i gyfarfod ein eco-bwyllgor.
Mae Ysgol Morfa Nefyn yn ysgol iach.
