Ysgol Iach

Mae Ysgol Morfa Nefyn yn Ysgol Iach! Golyga hyn ein bod yn rhan o Gynllun ysgolion iach Gwynedd. Llwyddodd yr ysgol i dderbyn y wobr ansawdd ym mis Gorffennaf 2016, sef cam 6 (y cam olaf) o'r cynllun. Daeth Keith Parry, Swyddog Addysg ardal Dwyfor ac Ann Hughes o gynllun ysgolion iach Gwynedd i'r ysgol i gyflwyno'r plac i'r disgyblion.

 

Rhedeg noddedig

Nôd y fenter yw annog ysgolion i fod yn weithredol o ran hyrwyddo iechyd a lles disgyblion, athrawon a'r gymuned ehangach drwy ddatblygu amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd.

 

Nôd y fenter yw annog ysgolion i fod yn weithredol o ran hyrwyddo iechyd a lles disgyblion, athrawon a'r gymuned ehangach drwy ddatblygu amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd.



Yn Ysgol Morfa, gwneir hynny drwy’r canlynol:

Cwricwlwm Cenedlaethol yr ysgol a gweithgareddau ymarferol y Cyfnod Sylfaen
Ethos yr ysgol a gweithgareddau o ddydd i ddydd
Cysylltiadau a geir eisoes gyda rhieni, y gymuned ac asiantaethau arbenigol

 

---------------------------------------------------------------------


Adnoddau defnyddiol Ysgol Iach

Gwefan schoolbeat
logo schoolbeat Cliciwch yma ar gyfer gwefan ‘schoolbeat’ sef gwefan ddefnyddiol sy’n rhoi gwybodaeth i rieni am:
- Gyffuriau a chamddefnyddio sylweddau
- Ymddygiad cymdeithasol a'r gymuned
- Diogelwch personol

 

Datblygiad personol a pherthnasedd
clawr

Fel rhan o’r gwaith i ddatblygu Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn yr ysgol mae’n ofynnol cyflwyno gwersi ar Ddatblygiad Personol a Pherthnasoedd.

 

Cliciwch yma i ddarllen llyfryn gwybodaeth am yr hyn fydd yn cael ei gyflwyno i’r plant.

 

---------------------------------------------------------------------

Gweithgareddau

 

plant

Clwb pel-droed

Cynhaliwyd glwb pel-droed ar ol ysgol yn ystod dathliadau Cwpan y Byd. Roedd pawb wedi mwynhau ac wrth eu boddau yn bod yn Gareth Bale.

 

plant

Wythnos Gerdded i’r Ysgol 2019
Ymdrech arbennig unwaith eto gan bawb wrth geisio cerdded i’r ysgol bob dydd o’r wythnos. Llwyddodd yr ysgol i dderbyn tystysgrif arian gan (gwybodaeth yn dod yn fuan)



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Wythnos Gerdded i'r ysgol Mai 2017

Penderfynodd y Cyngor Ysgol gefnogi wythnos gerdded i'r ysgol unwaith eto gan annog plant yr ysgol a'r rhieni i gerdded i'r ysgol bob bore a cherdded adref o'r ysgol bob prynhawn. Cliciwch yma i weld lluniau o'r plant oedd wedi ymdrechu gyda'u tystysgrifau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Rhedeg noddedig

Rhedeg noddedig

Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i gefnogi’r ysgol drwy ymuno yn y rhedeg noddedig ar draeth Morfa Nefyn. Roedd pawb wedi gwneud ymdrech arbennig i wisgo gwisg ffansi! Trefnodd yr ysgol y ras noddedig i gasglu arian ar gyfer gallu prynu mwy o offer cyfrifiadurol i’r dosbarthiadau. Cliciwch yma i weld lluniau o wisgoedd ffansi bob teulu. Gwych!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Ailgylchu

Ailgylchu

Bu Gwenllian, swyddog ailgylchu draw yn yr ysgol yn dysgu am bwysigrwydd ailgylchu gyda disgyblion Blwyddyn 2 a 3. Maent wedi bod yn dysgu am effaith llygredd ar ein hamgylchedd mewn gwersi Gwyddoniaeth y tymor hwn, gan bwysleisio fod llygredd yn cael effaith ddifrifol ar greaduriaid y mor. Cliciwch yma i weld lluniau o’r gweithgareddau difyr.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Kerbcraft

Daeth Catrin, Swyddog Diogelwch y ffyrdd i’r ysgol i ymwneud a chynllun kerbcraft gyda’r plant. H.y. Dysgu’r plant am reolau’r ffordd fawr gan fynd a hwy allan i’r pentref a sgiliau pwysig. Cliciwch yma i weld lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Y Clwb garddio

Roedd y Clwb garddio yn llwyddiannus iawn eto eleni. Mynychodd bob plentyn o flwyddyn 2 a 3 i ddysgu sgiliau garddio newydd gan gynnwys palu, chwynnu a phlannu. Rydym wedi plannu blodau lliwgar i wneud yr ardal tu allan yn ddeiniadol ac wedi plannu llysiau amrywiol. Cliciwch yma i weld lluniau o’r gwaith caled!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Wythnos gerdded i’r ysgol Mai 2016

Gwahoddwyd Carys Ofalus draw i’r ysgol unwaith eto gan y Cyngor Ysgol. Bu iddi atgoffa’r plant o reolau’r ffordd fawr cyn i’r cyngor ysgol eu hannog i gerdded i’r ysgol bob dydd. Cerddodd holl staff yr ysgol, y disgyblion a swyddog diogelwch y ffordd daith fer o amgylch y pentref i’r ysgol fore Llun i annog pawb i barhau yn ystod y tymor. Cafodd pawb frecwast blasus ac iachus ar ol cyrraedd yn ol i’r ysgol. Bydd y Cyngor Ysgol yn cadw cofrestr o bawb sydd yn cerdded i’r ysgol bob dydd ac yn gwobrwyo ar ddiwedd y tymor. Cliciwch yma i weld lluniau o’r bore cyntaf.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Diwrnod Dim Ysmygu
Roedd Dydd Mawrth, 9fed o Fawrth yn ddiwrnod ‘Dim ysmygu’. Bu Blwyddyn 2 a 3 yn dysgu am beryglon ysmygu a’i effaith ar y corff. Aethant ati i lunio posteri i atgoffa’r gymuned am bwysigrwydd peidio ysmygu. Gan ein bod yn ‘ysgol iach’, mae’r plant wedi arddangos rhai o’r posteri yng ngiatiau’r ysgol.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gwasanaeth Tan
Bu Lance o’r gwasanaeth tan yn yr ysgol yn trafod diogelwch tan gyda’r disgyblion. Dysgodd bawb am stori cymeriad o’r enw Tanni yn rhoi y ty ar dan mewn damwain. Bum yn edrych ar amrywiaeth o luniau o ystafelloedd ein cartrefi gan geisio adnabod y perygl ymhob llun. Cafodd rhai o’r plant wisgo dillad dyn tan.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

PC Owen
Bu PC Owen yn yr ysgol yn sgwrsio gyda’r plant am ei waith. Trafodwyd ‘Diogelwch y We’ gyda blynyddoedd 2 a 3 a phwysigrwydd “Paid cyffwrdd Dweud” gyda sylweddau gyda blwyddyn Meithrin, Derbyn ac 1.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Y Clwb Coginio

Bu Mr Ali o Polash Pwllheli yn y clwb coginio yn creu bwydydd indiaidd gyda’r plant. Dysgodd pawb am ei grefydd gan mai mwslim yw Mr Ali a nid cristion. Bum yn cymharu y ddwy grefydd cyn mynd ati i greu samosas llysiau iachus.


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Ymweliad Carys Ofalus

Bu Carys Ofalus yn yr ysgol yr wythnos hon yn llongyfarch y plant am eu hymdrech i gerdded i’r ysgol yn ystod tymor yr Haf, yn ogystal ag atgoffa y disgyblion am ddiogelwch y ffordd. Roedd y sesiwn yn ddiddorol iawn!




plant

Dathlu 10 mlynedd o’r ‘Clwb Dal i Fynd’
Roedd Clwb Dal i fynd yn dathlu ei benblwydd yn 10 oed ar y 3ydd o Orffennaf. Fel ysgol iach sydd yn cefnogi’r cynllun drwy redeg milltir yn wythnosol i gadw’n iach ac yn ffit, roeddem yn awyddus i ddathlu! Penderfynodd y Cyngor Ysgol y byddai bob disgybl yn talu £1 ac yn gwisgo gwisg ffansi i redeg millltir yn ystod y diwrnod er mwyn casglu arian tuag at elusen ‘Ambiwlans Awyr’. Bu i bawb redeg milltir o amgylch lôn gefn Morfa Nefyn yn eu gwisgoedd amrywiol.

Llwyddodd y Cyngor Ysgol i gasglu £43 tuag at elusen ‘Ambiwlans Awyr’ ac mi gafodd bawb hwyl yn cadw’n heini! Daeth Gareth Davies, sef tad Ioan (blwyddyn 1) a Gwenan (Blwyddyn 3) i’r ysgol i siarad gyda’r disgyblion am ei brofiau o redeg marathon yn Ffrainc eleni. Eglurodd wrth y plant am bwysigrwydd cadw’n iach gan drafod sut yr oedd yn bwyta’n iach, yfed digon o ddŵr bob dydd a chymeryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Cerdded i’r ysgol
Bum unwaith eto eleni yn cefnogi ‘Wythnos Gerdded i’r Ysgol’. Pwrpas yr wythnos yw hybu cerdded o safbwynt iechyd a gofalu am yr amgylchedd. Daeth Carys Ofalus draw i’r ysgol fore Llun i drafod diogelwch y ffordd gyda’r plant. Bore Mercher, cerddodd holl staff a phlant yr ysgol taith fer o amgylch y pentref. Cliciwch yma i weld lluniau o’r daith.

Yn dilyn ymdrech arbennig gan y plant penderfynodd y Cyngor Ysgol i barhau i wobrwyo plant oedd yn cerdded i’r ysgol yn ystod tymor yr Haf. Llwyddodd 27 o blant i dderbyn gwobr am gerdded i’r ysgol mwy na tair gwaith yr wythnos am gyfnod o 7 wythnos. Arbennig! Dyma lun ohonynt yn gwisgo eu crysau ‘Carys Ofalus’.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gweithgareddau’r Ganolfan Hamdden
Byddwn yn mynychu y Ganolfan Hamdden yn wythnosol yn ystod y flwyddyn i gael gwersi nofio, gymnasteg a dawns. Yn ystod tymor yr Haf, mae plant Blwyddyn 2 a 3 yn cymeryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn y Ganolfan. Cafodd bob un ohonynt sesiwn Caiacio yn y pwll, beicio yn yr unfan a dringo ar y wal ddringo yn y neuadd. Mae’r disgyblion wrth eu boddau ac wedi gweithio’n galed iawn. Cliciwch yma i weld lluniau ohonynt yn mwynhau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cooking club

Y Clwb Coginio
Bydd Clwb Coginio yn cael ei gynnal yn flynyddol lle bydd y plant yn cael cyfle i dderbyn amrywiaeth o brofiadau newydd a chyfleoedd i ddysgu llawer o sgiliau coginio sylfaenol. Eleni, aethant ati i goginio amrywiaeth o fwydydd iach gan gynnwys ‘salad cwscws gyda llysiau wedi eu rhostio a chaws ffeta’ a ‘pizza o wynebau doniol’. Cliciwch yma i weld lluniau o’r hwyl.