Themau

Tymor y Gwanwyn 2019: Dosbarth blwyddyn Meithrin, Derbyn ac 1: Mae disgyblion blynyddoedd Meithrin, Derbyn ac 1 yn dilyn thema ‘Y tylwyth teg' yn ystod y tymor hwn. Mae gan y disgyblion llawer o gwestiynau am Fyd y Tylwyth Teg sydd angen eu hateb ac rydym yn gobeithio dilyn Tili’r dylwythen deg drwy’r drws hudol i ddysgu mwy! Fel rhan o brosiect Ysgolion Creadigol, mae’r disgyblion yn cael cyfle i gyd-weithio gyda Siwan Llynor a Gai Toms. Bydd mwy o wybodaeth am y prosiect yn cael ei rannu yn yr adran newyddion ar y wefan.

 

Mae disgyblion Blwyddyn 2 a 3 yn dilyn thema ‘Hugan goch fach’ yn ystod y tymor hwn. Byddant yn derbyn amrywiaeth o brofiadau fydd yn datblygu eu creadigrwydd a’u dychymyg wrth ddatrys problemau sydd yn codi yn y stori, ac hyd yn oed yn cael cyfle i gyfarfod Hugan Goch Fach. Bydd lluniau o weithgareddau'r thema yn cael eu rhoi ar albwm lluniau y wefan yn ystod y tymor i chi gael eu gweld.